Gambar halaman
PDF
ePub

Y'nghanol myrdd myrddiynau,
Yn hyfryd lawenhau,
Yr anthem ydyw cariad,
A chariad i barhan,

HYMN 124. M. N. 7 6.

SHREWSBURY.

A hwy a ddechreuasant fod yn llawen· MANED y genedl gyfiawn, Daeth Ieso i'w rhyddhau;

CA

Mi wela 'r dydd yn dyfod,
Y derfydd ei holl wae:
Mae fenaid gwan yn credu
Ar fyr yr ochr draw,
Y'mhlith y dorf aneirif,
Cai delyn yn fy llaw.

Ar fyr câf radio'r

wybr,

Na ddeuaf byth yn ol,
Mi rofffarwel drag'wyddol,
I'r holl forwynion ffol:
Dedwyddwch mawr di-ddarfod,
Sydd uchod i barhau,
O fenaid dechreu ganu,
Mae'r amser yn nesâu,

Ymado wnaf å'r babell,
'Rwy'n trigo ynddi' n awr
Colofnau'r tŷ ddattodir,
Fe'i cwympir oll i lawr:

A pob gwahan-glwyf ymaith
Glân fuddugoliaeth mwy,
'Rwy'n canu wrth gofio'r bore,
Na welir arnai glwy.

Dyma y lle bydd canu,

Gan seintiau hyfryd sain; Rhyfeddod fydd fy ngweled, Yn canu gyda'r rhai'a: Rhyfeddod nef a daear,

Fydd gweled un mor ddu,
Yn wyn heb un brycheuyn,
Y'mlith y Defol lu.

Teilwng yw'r Oen a laddwyd,
O'r holl ogoniant mawr,
Trwy ganol nef y nefoedd,
Ac yma ar y llawr;
Pan elo'r holl greadigaeth,
Yn ulw gan y tân.
Teilyngdod Iesu drosof,
Fydd fy nhrag'wyddol gân.

A

HYMN 125. M. N. 76.

ST. THOMAS.

Rhyddid i'r caethion.

GORODD ddrws i'r caethion. I ddo'd o'r cystudd mawr; A'i werthfawr waed fe dalodd, Ein dyled oll i lawr:

Nid oes dim damnedigaeth,
I neb o'r duwiol hâd,
Y gwaredigion canant,

Am rinwedd mawr ei waed.

Fe genir ac fe genir,

Yn nhrag'wyddoldeb maith, Os gwelir un pererin,

Mor llesg ar ben ei daith;
A gurwyd mewn tymhestloedd,
A olchwyd yn y gwaed,
A ganwyd ac a gadwyd,
Trwy iachawdwriaeth rad.

Ce's ddw'r o'r graig i yfed,
I dorri'm syched mawr,
Ce's beunydd fara i'w fwytta,
O'r nef y daeth i lawr;
Ce's delyn tu yma i angau,

Fy holl gystuddiau ffodd,
I ganu i'r Oen fu farw,

Mae'n briod wrth fy modd.

Dyma yr un sy'n maddeu,
Pechodau rif y gwlith;
Does mesur ar ei gariad,
Na therfyn iddo byth;
Mae'n 'mofyn lle i dosturio,
Mae'n hoffi trugarhau,
Trugaredd i'r amddifaid,
Sydd ynddo yn parhau,

Brawd anwyl sy'n ein cofio,
Mewn oriau cyfyng caeth,
Brawd llawn o gyd-ymdeimlad,
Ni chlywyd am ei fath:
Brawd cadarn yn y frwydr,
Fe geidw ei frodyr gwan,
Yn dirion dan ei aden.
Fe ddaw â'r llesg i'r lan.

HYMN 122. M. N. 7 6.

MERIONETH.

Marwolaeth, adgyfodiad ac eiriolaeth Crist.

F

YтH. fyth, rhyfeddai'r cariad,
Yn nhrag'wyddoldeb pell,

A drefnodd yn yr arfaeth,
I'm etifeddiaeth well,

Nar ddaear a'i thrysorau,

A'i brau bleserau ynghyd,
Fy nghyfoeth mawr ni dderfydd
Yw Iesu brynwr byd.

Ar noswaith oer fe chwysai
Y gwaed yn ddafnau i lawr:
Ac ef mewn ymdrech meddwl,
Yn talu'n dyled mawr:
Fe yfai'r cwppan chwerw,
Wrth farw ar y pren,
Palmantodd ffordd i'r bywyd,
O'r ddaear byd y nen,

Rhyfeddai'r fuddugoliaeth,
Ar ben Calfaria fry;
Wrth farw fe orchfygodd,
Fy holl elynol lu;
Caethiwodd bob caethiwed,
Rhoes roddion i'w holl saint,
Na fedr neb tafodau,

Fynegi byth eu maint.

Trag'wyddol clod i'r cyfiawn,
Fu farw dros fy mai;
Fe adgyfododd eilwaith,
O'r bedd i'm cyfiawnhau:
Ar orsedd ei drugaredd,
Mae'n dadleu yn y ne',
Ei fywyd a'i farwolaeth
Anfeidrol yn fy lle.

Er gwaetha'r maen a'r gwilwyr,
Fe gododd lesu'n fyw;
Daeth yn ei law alluog,

A phardwn dynolryw;
Gwnaeth etifeddion uffern,
Yn etifeddion nef;
Fy enaid byth na thawed,

A chanu iddo ef.

HYMN 120. M. N. 7 6.

AFRICA.

Ymbil am faddeuant, a iachad o'r llesgedd,
I cheisiai yn wyneb Moses,
Ond Iesu i ddadleu 'nghwyn

N

« SebelumnyaLanjutkan »